Genesis 33

Jacob ac Esau yn cyfarfod

1Edrychodd Jacob a gweld Esau yn dod yn y pellter gyda phedwar cant o ddynion. Felly dyma fe'n rhannu'r plant rhwng Lea, Rachel a'r ddwy forwyn. 2Rhoddodd y ddwy forwyn a'u plant ar y blaen, wedyn Lea a'i phlant hi, a Rachel a Joseff yn olaf. 3Aeth Jacob ei hun o'u blaenau nhw i gyd. Ymgrymodd yn isel saith gwaith wrth iddo agosáu at ei frawd. 4Ond rhedodd Esau ato a'i gofleidio'n dynn a'i gusanu. Roedd y ddau ohonyn nhw'n crïo. 5Pan welodd Esau y gwragedd a'r plant, gofynnodd “Pwy ydy'r rhain?” A dyma Jacob yn ateb, “Dyma'r plant mae Duw wedi bod mor garedig â'u rhoi i dy was.” 6Dyma'r morynion yn camu ymlaen gyda'u plant, ac yn ymgrymu. 7Wedyn daeth Lea ymlaen gyda'i phlant hi, ac ymgrymu. Ac yn olaf daeth Joseff a Rachel, ac ymgrymu. 8“Beth oedd dy fwriad di yn anfon yr anifeiliaid yna i gyd ata i?” meddai Esau. Atebodd Jacob, “Er mwyn i'm meistr fy nerbyn i.” 9“Mae gen i fwy na digon, fy mrawd,” meddai Esau. “Cadw beth sydd piau ti.” 10“Na wir, plîs cymer nhw,” meddai Jacob. “Os wyt ti'n fy nerbyn i, derbyn nhw fel anrheg gen i. Mae gweld dy wyneb di fel gweld wyneb Duw – rwyt ti wedi rhoi'r fath groeso i mi. 11Plîs derbyn y rhodd
33:11 Hebraeg, “y fendith”
gen i. Mae Duw wedi bod mor garedig ata i. Mae gen i bopeth dw i eisiau.” Am ei fod yn pwyso arno dyma Esau yn ei dderbyn.

12Wedyn dyma Esau yn dweud, “I ffwrdd â ni felly! Gwna i'ch arwain chi.” 13Ond atebodd Jacob, “Mae'r plant yn ifanc, fel y gweli, syr. Ac mae'n rhaid i mi edrych ar ôl yr anifeiliaid sy'n magu rhai bach. Os byddan nhw'n cael eu gyrru'n rhy galed, hyd yn oed am ddiwrnod, byddan nhw i gyd yn marw. 14Dos di o flaen dy was. Bydda i'n dod yn araf ar dy ôl di – mor gyflym ac y galla i gyda'r anifeiliaid a'r plant. Gwna i dy gyfarfod di yn Seir.” 15“Gad i mi adael rhai o'r dynion yma i fynd gyda ti,” meddai Esau wedyn. “I beth?” meddai Jacob. “Mae fy arglwydd wedi bod mor garedig yn barod.” 16Felly dyma Esau yn troi'n ôl am Seir y diwrnod hwnnw. 17Ond aeth Jacob i'r cyfeiriad arall, i Swccoth. Dyma fe'n adeiladu tŷ iddo'i hun yno, a chytiau i'w anifeiliaid gysgodi. Dyna pam y galwodd y lle yn Swccoth
33:17 h.y. cytiau.
.

18Roedd Jacob wedi teithio o Padan-aram, a chyrraedd yn saff yn y diwedd yn nhre Sichem yn Canaan. Gwersyllodd heb fod yn bell o'r dre. 19Wedyn prynodd y tir ble roedd wedi gwersylla gan feibion Hamor (tad Sechem) am gant o ddarnau arian. 20Cododd allor i Dduw yno, a'i galw yn El-Elohe-Israel
33:20 h.y. Duw Israel sydd Dduw
.

Copyright information for CYM